muckefuck: (Default)
muckefuck ([personal profile] muckefuck) wrote2009-02-11 04:30 pm
Entry tags:

Breuddwyd coffadwy

Rw i wedi cael breuddwydion a ddalodd tameidiau o Gymraeg o'r blaen, ond dim byd fel yr un oedd gyda fi neithiwr. Ro'n i'n teithio mewn trên, ond ro'n i wedi methu f'arhosiad ac yn cerdded yn ôl tryw'r trên pan ddes i ar draws dau lanciau ac un lances oedd yn eistedd gyda'i gilydd ac yn sgwrsio yn iaith estron. Glywes i lawer o elliau a ddechrawodd rasio 'nghalon i.

Ro'n i'n eisiau deud, "Ydych chi'n siarad Cymraeg?" ond o'n i ffili cofio'r geiriau ac allwn i ddim ond gweiddi "CYMRAEG!". Ofynodd yr lances i fi, "Wyt ti'n siarad Cymraeg?" "Tipyn bach," meddwn i, "tipyn bach iawn!" O'n i'n ffili deall ei chwestiwn nesa, felly ddywedes i "Pam?" Chwerthinodd y dau lanciau. "I was asking what you thought of the air and the land," meddai hi a dangos y cefn gwlad tu fas i'r ffenestr.

(Oedd rhagor na hyn, ond aroses i'n rhy hir cyn ei rhoi ar glawr.)

Post a comment in response:

This account has disabled anonymous posting.
If you don't have an account you can create one now.
HTML doesn't work in the subject.
More info about formatting